graphic

Canolfannau Cerdyn C

Mewnblaniad

Gelwir weithiau’n ‘Rod’

Sut maent yn gweithio?

Y brif ffordd y mae’r mewnblaniadau’n gweithio yw trwy atal yr ofarïau rhag rhyddhau wy bob mis (ofyliad). Mae hefyd:
Yn tewhau’r mwcws yng ngheg y groth, sy’n ei wneud yn anodd i’r sberm gyrraedd wy.
Mae’n gwneud leinin y groth yn deneuach felly mae’n llai tebygol o dderbyn wy wedi ei ffrwythloni. 

Am ba hyd mae’n parhau?

- Mae’n gweithio am dair blynedd. 

Pa mor effeithiol y dyw?

- Mae’r mewnblaniad atal cenhedlu yn fwy na 99 y cant effeithiol. Mae hyn yn golygu, wrth ddefnyddio’r dull hwn y bydd llai nag un fenyw mewn 100 yn beichiogi mewn blwyddyn.
- Mae hyn yn golygu, wrth ddefnyddio’r dull hwn y bydd llai nag un fenyw mewn 100 yn beichiogi mewn blwyddyn. 

Sut caiff ei osod? 

- Bydd meddyg neu nyrs gymwys yn gosod y mewnblaniad trwy ei osod o dan y croen ar ochr fewnol pen y fraich. Mae’r broses yn teimlo ychydig fel chwistrelliad. Bydd pwy bynnag sydd yn gosod y mewnblaniad yn rhoi anesthetig lleol i chi i’w atal rhag brifo.. 
- Gall eich braich fod ychydig yn ddolurus neu wedi cleisio am ychydig  diwrnodau ar ôl ei osod.

Sut caiff ei dynnu?

- Caiff mewnblaniad ei dynnu trwy doriad bach y bydd meddyg neu nyrs gymwys yn ei wneud yn eich croen. Byddant yn defnyddio anesthetig lleol i’w atal rhag brifo.

Buddion

- Gellir ei ddefnyddio gan fenywod nad ydynt yn gallu defnyddio’r bilsen gyfun.
- Nid oes angen archwiliad mewnol i’w gael.
- Mae eich ffrwythlondeb naturiol yn dychwelyd cyn gynted ag y caiff ei dynnu.

Anfanteision Posibl

- Gall eich misglwyf fynd yn afreolaidd.
- ae rhai menywod yn cael cur pen, acne, newidiadau mewn hwyl a bronnau tyner.
- Gall y mewnblaniad fod yn llai effeithiol os ydych yn defnyddio meddyginiaethau penodol wedi eu rhagnodi neu eu prynu — trafodwch hyn gyda’ch meddyg neu nyrs.