graphic

Canolfannau Cerdyn C

Y System Fewngroth (IUS)

Gelwir Weithiau’n Mirena

Sut maent yn gweithio?

- Trwy wneud leinin y groth yn deneuach, er mwyn ei wneud yn llai tebygol o dderbyn wy wedi ei ffrwythloni.
- Trwy dewhau’r mwcws yng ngheg y groth, sy’n ei wneud yn anoddach i’r sberm gyrraedd wy. 
 

Am ba hyd mae’n parhau?

- Mae’n gweithio am bum mlynedd. 

Pa mor effeithiol ydyw?

- Mae’r IUS dros 99 y cant yn effeithiol cyhyd â’i fod yn ei le.
- Mae gan yr IUS ddau edefyn meddal ar un pen, sydd yn hongian trwy geg y groth i mewn i’r fagina. Mae’r rhain er mwyn i chi allu gwneud yn siw^ r bod yr IUS yn ei le. Os ydych eisiau sicrwydd ei fod yn dal yn ei le, gallech deimlo’n ofalus am yr edau.
- Cyhyd â’i fod yn ei le, bydd llai nag un fenyw ym mhob 100 ar gyfartaledd yn beichiogi mewn blwyddyn.

Sut caiff ei osod? 

- Bydd meddyg neu nyrs gymwys yn gosod yr IUS trwy ei osod yn eich croth trwy archwiliad mewnol. Bydd hyn fel arfer yn cymryd tua 20 munud. Gall fod yn anghyfforddus ar y pryd ond gallwch gael anesthetig lleol neu laddwyr poen i helpu gyda hyn. Gall hyn fod ychydig yn anghyfforddus a gallech waedu ychydig am rai diwrnodau wedi hynny. Bydd y person sy’n gosod eich IUS yn eich cynghori.

Sut caiff ei dynnu?

- Bydd meddyg neu nyrs gymwys yn tynnu’r IUS trwy dynnu’r edau sydd ynghlwm wrtho yn ysgafn er mwyn iddo ddod drwy ceg y groth ac allan o’ch corff.

Buddion 

- Mae eich misglwyf fel arfer yn mynd yn llawer ysgafnach, yn fyrrach ac yn llai poenus, a gallddod i ben yn gyfan gwbl ar ôl y flwyddyn gyntaf o’i ddefnyddio, felly mae’r IUS ynddefnyddiol os ydych yn cael misglwyf trwm,
poenus.
- Mae eich ffrwythlondeb arferol yn dychwelyd cyn gynted ag y caiff yr IUS ei dynnu.
- Mae’n hawdd ei dynnu.
- Nid yw’n cael ei effeithio gan unrhyw feddyginiaethau eraill.
 

Anfanteision posibl

- Gallech brofi rhywfaint o waedu afreolaidd neu ‘sbotio’ i ddechrau, ond dylai hyn setlo.
- Mae rhai menywod yn cael cur pen, acne, newidiadau mewn hwyl a bronnau tyner yn yr ychydig fisoedd cyntaf ar ôl ei osod. Mae hyn fel arfer yn setlo wrth i chi ddod i arfer â’r maint bach iawn o hormon yn yr IUS.
- Mae’n rhaid iddo gael ei osod yn ofalus gan feddyg neu nyrs oherwydd gall fod rhai cymhlethdodau prin iawn —bydd y clinig yn trafod y rhain pan fyddwch yn mynychu.