Mae haint clamydia’r genitalia (y cyfeirir ato’n gyffredin fel clamydia) yn haint a drosglwyddir yn rhywiol sy’n cael ei achosi gan y bacteriwm, Chlamydia trachomatis. Gall gael ei drosglwyddo drwy gyfathrach rywiol heb amddiffyniad drwy’r wain, drwy’r geg neu drwy’r anws neu trwy gysylltiad â genitalia partner sydd wedi’i heintio. Ni ellir ei ddal trwy gysylltiad cyffredinol h.y. drwy seddi toiled, pyllau nofio, sawnau ac ati).
Nid oes gan o leiaf 50% o ddynion a 70% o fenywod sydd wedi’u heintio unrhyw symptomau ac felly mae cyfran fawr o achosion heb gael diagnosis. Fodd bynnag, mae pobl sydd heb symptomau o hyd yn gallu trosglwyddo’r haint i bartneriaid rhywiol.
Mwy o wybodaeth am glamydia gan Galw Iechyd Cymru Ar-lein
Pwy sy’n ei gael a pha mor ddifrifol ydyw?
Gall unrhyw un sy’n cael cyfathrach rywiol gael haint clamydia’r genitalia. Y bobl sydd â risg o’i gael yw’r rhain sy’n cael cyfathrach rywiol heb ddiogelwch, yn enwedig gyda mwy nag un partner rhywiol a’r rhai sy’n newid partneriaid rhywiol.
Gall haint hefyd gael ei drosglwyddo i fabanod yn ystod genedigaeth gan fam sydd wedi’i heintio, gan achosi conjynctifitis neu niwmonia, ac mae modd trin y ddau o’r rhain.
Os caiff ei adael heb ei drin, gall heintiau clamydia ddatblygu’n broblemau atgenhedlu difrifol ac yn broblemau iechyd eraill. Yn achos menyw, gall achosi clefyd llidiol y pelfis (PID) sy’n gallu arwain at anffrwythlondeb a mwy o risg o gael beichiogrwydd ectopig. Yn achos dynion, mae cymhlethdodau’n fwy anghyffredin ond yn achlysurol iawn, gallant arwain at anffrwythlondeb.
Triniaeth
Mae clamydia anghymleth yn hawdd ei drin a’i wella gan ddefnyddio gwrthfiotigau penodol. Fodd bynnag, nid yw canlyniadau PID yn hawdd eu trin a gall y goblygiadau i’r unigolion perthnasol bara am weddill eu hoes.
Pa mor gyffredin ydyw?
Clamydia yw’r haint bacteriol a drosglwyddir yn rhywiol y mae clinigau Meddygaeth Genhedlol-Wrinol yng Nghymru a’r DU yn cael adroddiadau ohono amlaf. Mae’r cyfraddau uchaf yn ymddangos ymysg pobl ifanc, yn enwedig dynion a menywod o dan 24 oed.
Yn 2006, roedd clinigau GUM yng Nghymru wedi rhoi gwybod am 3869 achos o haint clamydia anghymhleth. Fodd bynnag, mae’n bosibl nad oes diagnosis yn cael ei wneud o nifer sylweddol o heintiau gan nad oes symptomau gan lawer o bobl sydd wedi’u heintio ac felly nid ydynt yn gofyn am gyngor meddygol.
Mae mwy o wybodaeth am arolygu haint clamydia’r genitalia yng Nghymru ar gael o ficrowefan Diogelu Iechyd GICCC o’r ddolen hon: cyfraddau ac arolygu clamydia yng Nghymru
Atal
Gall dynion a menywod sy’n weithgar yn rhywiol ostwng eu risg o gael clamydia trwy ostwng nifer eu partneriaid, gostwng pa mor aml maent yn newid eu partner, a thrwy ddefnyddio condomau’n gywir ac yn gyson yn ystod cyfathrach rywiol.
Yn ogystal, gall unigolion ofyn am sgrinio cyfrinachol am glamydia a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol, naill ai gan eu meddyg teulu neu gan glinig meddygaeth genhedlol-wrinol (GUM), ac mae rhestrau o’r rhain ar gael o wefan y Gymdeithas Cynllunio Teulu. Mae clinigau GUM yn hollol gyfrinachol ac ni fyddant yn rhoi gwybod i feddygol teulu am ganlyniadau oni bai bod y claf yn gofyn iddynt wneud hynny. Gall pobl o bob oedran fynd i’r clinigau.
Lleihau’r effaith yng Nghymru
Mae GICCC wedi sefydlu’r Rhaglen Iechyd Rhywiol sy’n casglu ac yn coladu data ar lefelau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys clamydia, ymysg poblogaeth Cymru. Mae data o’r fath yn caniatáu am nodi tueddiadau arwyddocaol ac unrhyw grwpiau penodol o’r boblogaeth sy’n cael eu heffeithio, a bydd yn galluogi gwasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol o ansawdd uchel, hygyrch a phriodol gael eu cyflwyno’n effeithiol, mewn partneriaeth â chyrff cenedlaethol a lleol eraill ac wrth gefnogi’r cyrff hyn.