graphic

Canolfannau Cerdyn C

Gonorrohoea

Mae gonorrhoea yn haint sy’n cael ei ddal yn rhywiol (STI) sydd wedi’i achosi gan y bacteriwm Neisseria gonorrhoeae. Dyma’r ail haint bacteriol a drosglwyddir yn rhywiol mwyaf cyffredin yng Nghymru ac yn y DU.
 
Gall hefyd gael ei drosglwyddo o fam i’w baban yn ystod beichiogrwydd.
 
Mae arwyddion cyntaf gonorrhoea yn aml yn ysgafn ac ni fydd llawer o fenywod ifanc a rhai dynion ifanc yn dangos unrhyw symptomau ac felly mae’n bosibl na fyddant yn ymwybodol bod ganddynt yr haint. Mae symptomau arllwysiad o’r organau rhywiol a phoen llosgi wrth droethi’n digwydd yn amlach ymhlith dynion na menywod
 
mwy o wybodaeth am gonorrhoea gan Galw Iechyd Cymru Ar-lein

Pwy sy’n ei gael a pha mor ddifrifol yw gonorrhoea?

Y bobl sydd â’r risg mwyaf o gael gonorrhoea yw’r rhai sy’n cael cyfathrach rywiol heb ddiogelwch (h.y. heb ddefnyddio condom), y rhai sydd â mwy nag un partner rhywiol neu’r rhai sy’n newid eu partneriaid yn aml. Caiff ei ddal trwy gael cyfathrach rywiol drwy’r waun, drwy’r geg neu drwy’r anws, neu gysylltiad ag organau rhywiol partner sydd wedi’i heintio. Mae’n bosibl na fydd gan rywun sydd wedi’i heintio unrhyw symptomau, ond gall drosglwyddo’r haint heb yn wybod iddo o hyd.
 
Mae’r cyfraddau uchaf o gonorrhoea i’w gweld ymhlith menywod 16-19 oed ac ymhlith dynion 20-24 oed.
 
Gall gonorrhoea gael effeithiau arbennig o ddifrifol ar fenywod ifanc os na chaiff ei drin. Gall achosi clefyd llidiol y pelfis (PID) sy’n gallu arwain at anffrwythlondeb a risg uwch o ddioddef beichiogrwydd ectopig. Yn achlysurol iawn, gall gonorrhoea heb ei drin ledaenu i lif y gwaed neu i’r cymalau. Mae hyn yn digwydd ymhlith dynion a menywod.

Triniaeth

Caiff gonorrhoea ei drin gyda dos unigol o wrthfiotigau penodol. Yn ddiweddar, mae hi wedi dod i’r amlwg bod rhai rhywogaethau gonorrhoea yn dod yn ymwrthol i’r gwrthfiotigau sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin i’w drin (ymwrthedd gwrthficrobaidd). Mewn achosion o’r fath, gall mathau eraill o wrthfiotig gael eu rhoi ar bresgripsiwn.

Pa mor gyffredin yw gonorrhoea?

Mae cyfraddau gonorrhoea yng Nghymru wedi dangos cynnydd cyffredinol dros y ddegawd ddiwethaf o’u cymharu â’r cyfraddau isel a welwyd yn ystod diwedd y 1980au a dechrau’r 1990au.
 
Yn 2006, adroddodd clinigau meddyginiaeth genhedlol-wrinol (GUM) am 507 o achosion o gonorrhoea yng Nghymru sef 17 achos newydd ym mhob 100,000 o’r boblogaeth. Mae hyn yn cymharu â’r gyfradd o 31 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth a gofnodwyd ar gyfer y DU gyfan yn ystod yr un flwyddyn.
 
Mae mwy o wybodaeth am arolygu gonorrhoea yng Nghymru ar gael o fircrowefan Diogelu Iechyd GICCC: cyfraddau ac arolygu gonorrhoea yng Nghymru

Atal

Gall pobl sy’n weithgar yn rhywiol ostwng eu risg o ddal gonorrhoea trwy leihau nifer eu partneriaid rhywiol a thrwy ddefnyddio condomau’n gywir ac yn gyson yn ystod cyfathrach rywiol.
 
Gall unigolion ofyn am sgrinio cyfrinachol ar gyfer gonorrhoea a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol naill ai gan eu meddyg teulu neu gan glinig meddygaeth genhedlol-wrinol (GUM), y mae rhestrau ohonynt ar gael ar wefan y Gymdeithas Cynllunio Teulu. Mae clinigau GUM yn hollol gyfrinachol ac ni fyddant yn rhoi gwybod i feddygon teulu am ganlyniadau oni bai bod y claf yn gofyn iddynt wneud hynny. Gall pobl o bob oedran fynd i’r clinigau.

Lleihau’r effaith yng Nghymru

Mae GICCC wedi sefydlu’r Rhaglen Iechyd Rhywiol sy’n casglu ac yn coladu data ar lefelau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys gonorrhoea, ym mhoblogaeth Cymru. Mae’r data hyn yn caniatáu am nodi tueddiadau arwyddocaol ac unrhyw grwpiau penodol o’r boblogaeth sydd wedi cael eu heffeithio, ac mae’n galluogi gwasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol o ansawdd uchel, hygyrch a phriodol gael eu cyflwyno’n effeithiol, mewn partneriaeth â chyrff lleol a chenedlaethol eraill, ac i gefnogi’r cyrff hyn. Yn ogystal, mae rhaglen ICDS i bennu lefelau a mathau’r rhywogaethau gonorrhoea sy’n wrthficrobaidd-ymwrthol yng Nghymru wedi cael ei sefydlu hefyd.