graphic

Canolfannau Cerdyn C

Syffilis

Mae syffilis yn haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) sy’n cael ei achosi gan y bacteriwm Treponema pallidum. Gall hefyd gael ei drosglwyddo o fam i faban yn ystod beichiogrwydd neu enedigaeth gan achosi clefyd o’r enw syffilis cynhenid.
 
Bydd syffilis (heblaw am syffilis cynhenid) yn digwydd mewn pedwar cam: cyntaf, ail, cuddiedig a hwyr (trydyddol), sydd weithiau’n gorgyffwrdd. Os caiff ei adael heb ei drin, bydd syffilis yn achosi symptomau ymhen hir a hwyr mewn tua 40% o’r bobl sydd wedi’u heintio.
 
Mae gan syffilis lawer o symptomau posibl sy’n debyg i symptomau clefydau eraill. Nid yw llawer o bobl sydd â syffilis yn cael symptomau am flynyddoedd ac mae’n hawdd diystyru’r doluriau sy’n datblygu yn ystod camau cychwynnol y salwch.

Pwy sy’n ei gael a pha mor ddifrifol yw syffilis?

Y bobl sydd â’r risg fwyaf o ddal syffilis yw’r rhai sy’n cael cyfathrach rywiol heb ddiogelwch (h.y. heb ddefnyddio condom), pobl sydd â mwy nag un partner rhywiol a phobl sy’n newid eu partneriaid yn aml. Caiff ei ddal drwy gael cyfathrach rywiol drwy’r wain, drwy’r geg neu drwy’r anws gyda phartner sydd wedi’i heintio, neu gysylltiad ag organau rhywiol partner sydd wedi’i heintio. Gall rhywun sydd wedi’i heintio fod heb symptomau ond gall barhau i drosglwyddo’r haint heb yn wybod iddo.
 
Yn wahanol i STIs bacteriol eraill, nid ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau y mae mwyafrif yr achosion; mae’r cyfraddau uchaf i’w gweld ymhlith grwpiau oedran hŷn. Yng Nghymru, roedd y cyfraddau uchaf o syffilis heintiedig wedi’u cofnodi ymhlith dynion rhwng 21 a 43 oed. Mae dynion sy’n cael cyfathrach rywiol gyda dynion (MSM) yn cyfrif am bron dri-chwarter yr achosion sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru. 
 
Gall syffilis trydyddol achosi niwed difrifol iawn i systemau ac organau’r corff, ac achosi marwolaeth.

Triniaeth

Mae modd trin pob cam o syffilis gan ddefnyddio gwrthfiotigau, er mae’n haws ei wella yn ystod y camau cynnar. Fodd bynnag, ni ellir dadwneud y niwed i organau sy’n gallu digwydd yn ystod syffilis hwyr.

Pa mor gyffredin yw syffilis?

Roedd nifer yr achosion o syffilis heintus o’u cymharu â heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol wedi parhau’n isel yng Nghymru tan ddiwedd y 1990au. Er 2001, gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion; mae 90% o’r achosion ymhlith dynion, gydag 82% ohonynt wedi’u cofnodi ymhlith dynion hoyw neu ddeurywiol. Yn ogystal, roedd 20% o’r bobl â syffilis heintus yn 2007 hefyd wedi’u heintio â HIV.
 
Mae mwy o wybodaeth am gyfraddau ac arolygu syffilis heintus i’w chael o ficrowefan Diogelu Iechyd GICCC trwy ddilyn y ddolen: cyfraddau ac arolygu syffilis yng Nghymru

Atal

Gall pobl sy’n weithgar yn rhywiol leihau eu risg o ddal syffilis drwy ostwng nifer eu partneriaid rhywiol a thrwy ddefnyddio condomau’n gywir ac yn gyson yn ystod cyfathrach rywiol.
 
Gall unigolion ofyn am sgrinio cyfrinachol am syffilis a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol, naill ai gan eu meddyg teulu neu gan glinig meddygaeth genhedlol-wrinol (GUM), ac mae rhestrau o’r rhain ar gael o gwefan y Gymdeithas Cynllunio Teulu. Mae clinigau GUM yn hollol gyfrinachol ac ni fyddant yn rhoi gwybod i feddygon teulu am y canlyniadau oni bai bod y claf yn gofyn iddynt wneud hynny. Gall pobl o bob oedran fynychu’r clinigau.

Lleihau’r effaith yng Nghymru

Mae GICCC wedi sefydlu’r Rhaglen Iechyd Rhywiol sy’n casglu ac yn coladu data ar lefelau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys syffilis, ymysg poblogaeth Cymru. Er Ionawr 2002, ymgymerwyd ag uwch-raglen arolygu syffilis heintus yng Nghymru hefyd. Mae’r data hyn yn caniatáu am nodi tueddiadau arwyddocaol ac unrhyw grwpiau penodol o’r boblogaeth sy’n cael eu heffeithio, ac mae’n galluogi gwasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol o ansawdd uchel, hygyrch a phriodol i gael eu cyflwyno’n effeithiol, mewn partneriaeth â chyrff cenedlaethol a lleol eraill ac wrth gefnogi’r cyrff hyn.